Mae’r Swyddfa Dywydd y Met wedi galw ar Gymru gyfan i fod yn ofalus heddiw oherwydd rhew ar y ffyrdd.

Cwympodd y tymheredd i -14C (6.8F) mewn rhai rhannau o dde Cymru neithiwr.

Mae Cyngor Sir Gar hefyd wedi rhybuddio heddiw bod pobol yn peryglu eu bywydau drwy sglefrio ar lynnoedd wedi rhewi yn y sir.

Mae wardeniaid parciau’r cyngor wedi ymateb i bum galwad ar ôl i bobol geisio cerdded ar rew mewn parciau yn Llanelli a Chaerfyrddin.

Maen nhw hefyd wedi dweud wrth berchnogion cŵn i ochel rhag dŵr sydd wedi rhewi.

“Mae’n destun pryder bod rhai pobol wedi bod yn peryglu eu bywydau drwy gerdded neu sglefrio ar lynnoedd sydd wedi rhewi,” meddai Paul Murray, rheolwr tiroedd y cyngor.

“Nid yn unig mae o’n berygl iddyn nhw ond hefyd unrhyw un all geisio eu hachub nhw. Er gwaethaf arwyddion yn rhybuddio pobol ynglŷn â’r peryg bu’n rhaid i ni ymateb i sawl digwyddiad dros y dyddiau diwethaf.”

Fe allai’i iâ, er ei fod o’n drwchus mewn rhai mannau, hollti’n hawdd. Dylai unrhyw un sy’n gweld rhywun arall yn mynd i drafferthion ffonio 999 yn hytrach na cheisio eu hachub eu hunain.

Er gwaetha’r rhew mae yna dywydd cynhesach ar y gorwel ac mae’n debyg y bydd Cymru yn mwynhau ei noson gyntaf di-rew ers bron i bythefnos, ddydd Iau.

Gweddill Prydain

Fe fuodd cannoedd o yrwyr yn gaeth yn eu ceir yn yr Alban am hyd at 15 awr dros nos wrth i eira a rhew wneud teithio’n amhosib ddoe.

Mae gogledd ddwyrain yr Alban a gogledd orllewin Lloegr yn wynebu mwy o eira heddiw.

Mae o leiaf naw o bobol wedi marw hyd yn hyn o ganlyniad i’r tywydd garw. Daethpwyd o hyd i ddyn oedrannus yn farw mewn parc carafanau yn Swydd Lincoln ddoe.