Mae archwiliad post mortem wedi’i gynnal ar gorff dynes 35 blwydd oed a ddarganfuwyd yn farw yng Ngwalchmai, Ynys Môn ddydd Sul.

Mae’r Heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’i marwolaeth, fore dydd Sul, 5 Rhagfyr, meddai’r Heddlu.

Pan ddaethpwyd o hyd i’r corff mewn gardd yng Ngwalchmai, roedd yr heddlu wedi rhybuddio pobol i fod yn fwy gofalus nag arfer yn ystod y tywydd oer.