Mae Ysgrifennydd Cymru wedi wfftio honiadau y bydd hi’n ymddiswyddo o’r Cabinet dros gynlluniau i adeiladu rheilffordd drwy ei hetholaeth.
Yn ôl sïon yn y wasg leol a cenedlaethol mae’r Aelod Seneddol yn ystyried rhoi’r gorau i’w chyfrifoldeb dros Gymru er mwyn protestio dros fater yn ei hetholaeth Chesham ac Amersham.
Mae disgwyl i reilffordd gyflym newydd fynd drwy etholaeth Cheryl Gillan ac mae hynny wedi cythruddo rhai o’i hetholwyr.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen gyda chynllun y llywodraeth Lafur blaenorol i adeiladu’r rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham.
Mae disgwyl i’r cynlluniau gael eu cyhoeddi cyn diwedd yr wythnos.
Yn ôl papur newydd y Buckinghamshire Examiner maen nhw wedi eu “boddi” gan negeseuon gan eu darllenwyr yn galw ar Cheryl Gillan i ymddiswyddo tros y mater.
Mae Cymdeithas Pentref Great Missenden, un o’r pentrefi sy’n debygol o gael ei heffeithio gan y cynlluniau, eisoes wedi galw arni i adael y Cabinet a brwydro’r cynllun o’r meinciau ôl.
Ond dywedodd ymgynghorydd personol Cheryl Gillan, Richard Hazlewood, wrth Golwg 360 nad oedd “unrhyw fwriad ganddi i ymddiswyddo,” ac nad oedd sail i honiadau rhai o’r papurau Seisnig.
“Yr unig gynllun sydd o’n blaenau ni ar hyn o bryd yw cynnig y llywodraeth ddiwethaf,” meddai Richard Hazlewood, “does dim manylion eto ynglŷn â chynlluniau’r llywodraeth bresennol”.
Ond doedd ymgynghorydd Cheryl Gillan ddim yn fodlon gwadu y bydd Cheryl Gillan yn ymddiswyddo pe bai cynllun llywodraeth y glymblaid yn mynd a’r rheilffordd drwy ei hetholaeth.
Serch hynny dywedodd y byddai hi’n “haws” i Ysgrifennydd Cymru “ddylanwadu” ar y broses gynllunio sy’n debygol o effeithio ar etholaeth Swydd Buckingham o “du fewn y cabinet,” fel Ysgrifennydd Cymru, nag o’r meinciau cefn.