Mae myfyrwyr Cymru wedi cwympo mewn tabl rhyngwladol sy’n mesur gallu disgyblion.

Mae sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth disgyblion Cymru yn is na gweddill Prydain, ac yn is na’r cyfartaledd rhyngwladol, yn ôl tabl a ryddhawyd heddiw.

Yn 2006, roedd Cymru tua chanol y rhestr ryngwladol ond hi oedd yr isa’ o bedair gwlad y Deyrnas Unedig eleni.

Mae’r tabl yn cael ei greu trwy Raglen Asesu Ryngwladol i Fyfyrwyr sy’n cael ei threfnu gan wledydd diwydiannol yr OECD, gydag arholiadau i 10,000 o ddisgyblion 15 oed o bob gwlad.

Mae’r arholiadau’n asesu gallu disgyblion i ddefnyddio’u gwybodaeth mewn meysydd fel mathemateg, gwyddoniaeth a darllen.

Yn ôl ymchwil gan y Corff Datblygu a Chydweithio Economaidd mae addysg ar draws Prydain wedi “aros yn yr unfan” tra bod gwledydd gan gynnwys Gwlad Pwyl a Norwy wedi achub y blaen.

Syrthio

Mae Prydain wedi syrthio o’r 17eg i’r 25ain safle ar y tabl sy’n mesur sgiliau darllen plant 15 oed. Mewn mathemateg, mae wedi syrthio o’r 24ain i’r 28ain safle.

Sgôr Prydain gyfan oedd 494 mewn darllen, 492 mewn mathemateg, a 514 mewn gwyddoniaeth.

Yng Nghymru’r sgôr oedd 476 mewn darllen, 472 mewn mathemateg, a 496 mewn gwyddoniaeth.

Y sgôr cyfartalog ar draws y byd oedd 493 mewn darllen, 496 mewn mathemateg, a 501 mewn gwyddoniaeth.

Cymerodd tua 15 miliwn o ddisgyblion 15 oed o fwy nag 70 gwlad ran yn y gwaith ymchwil yn 2009. Disgyblion Shanghai-China ddaeth uchaf ym mhob un o’r profion.

Mae canlyniadau Prydain yn debyg i’r canlyniadau yn 2006, ond ers hynny mae gwledydd eraill wedi gwella ac mae Prydain wedi syrthio i lawr y rhestr.

Ymateb

“Mae’r ystadegau yn dangos bod Prydain wedi aros yn yr unfan,” meddai Andreas Schleicher, arweinydd yr ymchwil.

“Yn y cyfamser mae gwledydd eraill wedi gwella’n sylweddol. Dyna sut ydw i’n dadansoddi’r ystadegau.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove bod rhaid dysgu gwersi, a “na fydd pob gwers yn cael ei groesawu gan bobol sydd wedi buddsoddi’n fawr yn yr hen ffordd o wneud pethau”.

Yn ôl ysgrifennydd addysg yr wrthblaid, Andy Burnham, mae addysg ym Mhrydain yn “mynd i’r cyfeiriad cywir”.

“Gadawodd y Blaid Lafur y ‘genhedlaeth orau erioed o athrawon’ ar ei ôl, yn ôl Ofsted. Rhaid adeiladu ar y seiliau cadarn yma a pharhau i godi safonau addysg er mwyn sicrhau ein bod nid ymysg y gorau yn y byd.”

Ynghynt, roedd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud y byddai’r asesiad yn dangos a oedd polisïau’r Llywodraeth yn gweithio, ar ôl iddyn nhw ddilyn cyngor athrawon a dileu mesurau fel profion cyson a thablau.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddilyn esiampl y Llywodraeth yn Llundain a chynnig taliad ychwanegol wedi’i dargedu at blant o gefndiroedd tlawd wrth iddyn nhw ddechrau ym myd addysg.

“Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi caniatáu i ddisgyblion Cymru gwympo ymhellach ac ymhellach y tu ôl i blant yn Lloegr,” meddai llefarydd y Democratiaid, Jenny Anderson.

“Mae’r plant tlota’ yng Nghymru deirgwaith yn llai tebyg na phlant mwy cefnog o adael ysgol gyda pump TGAU da. Am y tro cynta’ mae bwlch yn agor wrth i Fyfyrwyr yn Lloegr wneud yn well na’r Cymry mewn canlyniadau TGAU a Lefel A.”