Mae llwch a lafa sy’n dod o losgfynydd Tungurahua yn Ecwador yn gorfodi pobol mewn pentrefi cyfagos i symud o’u tai.

Ond mae awdurdodau’r wlad wedi cadarnhau nad oes neb wedi eu hanafu na dim difrod wedi ei gofnodi wedi’r ffrwydriad diweddara’ hwn.

Mae pobol sy’n byw o fewn wyth milltir i’r mynydd wedi cael eu symud o’u cartrefi, rhag ofn.

Ym mis Mai eleni, fe achosodd llwch y llosgfynydd hwn i faes awyr dinas fwya’ Ecwador, Guayaquil, aros ynghau am ddiwrnod. Fe gafodd miloedd o bobol eu symud o’u cartrefi bryd hynny.

Mae’r llosgfynydd rhyw 95 milltir o Quito, prifddinas Ecwador. Yn 2006, fe achosodd ffrwydriad mawr i bentrefi cyfan gael eu claddu dan lafa, ac fe gafodd o leia’ bedwar o bobol eu lladd.