Mae Gwlad Thaid yn nodi pen-blwydd y Brenin Bhumibol Adulyadej heddiw, ond all yr holl ddathlu yn y byd ddim cuddio’r ffaith bod yna bryderon mawr ynghylch ei iechyd a dyfodol y sefydliad brenhinol yn y wlad.

Mae Bhumibol wedi traddodi ei araith ben-blwydd heddiw, gan alw eto am undod o fewn y wlad sydd wedi gweld llawer o brotestio a dadlau gwleidyddol dros y blynyddoedd diwetha’.

Fe wnaeth y brenin ei sylwadau yn y Palas Mawr seremonïol, a’i lais yn wan ac yn tanlinellu breuder ei iechyd.

Roedd miloedd o bobol allan ar y stryd yn chwifio baneri wrth iddo gael ei yrru o ysbyty Siriraj i’r palas. Mae wedi bod yn yr ysbyty ers mis Medi 2009, yn diodde’ o afiechyd ar yr ysgyfaint.