Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn defaid yng ngwledydd Prydain wedi digwydd oherwydd fod pris cig yn y siop wedi codi cymaint. Dyna ganfyddiad ymchwil i’r mater gan gwmni yswiriant NFU Mutual.
Mae pum gwaith yn fwy o ddefaid yn cael eu lladrata o gaeau ffermydd heddiw, o gymharu â faint oedd yn cael eu dwyn flwyddyn a hanner yn ôl, meddai’r ymchwil gan un o gwmnïau yswirio ffermwyr mwya’ gwledydd Prydain.
Ond, yn fwy na dwyn yr anifeiliaid, mae nifer o’r lladron hefyd yn bwtsiera’r cig mewn caeau, yn hytrach na than amodau glân lladd-dy swyddogol.
Dyna pam fod NFU Mutual bellach yn rhybuddio pobol o beryg prynu cig sydd wedi ei ddwyn a’i drin fel hyn.
Y newid mawr
Erioed, mae ffermwyr wedi bod yn riportio ambell golled wedi i ddafad neu oen gael eu dwyn o gaeau. Ond yn y cyfnod diweddar hwn, mae adroddiadau o gangiau’n dod mewn lorïau ac yn dwyn hyd at 100 o anifeiliaid ar yr un pryd.
Mae’r broblem ar ei gwaetha’ yn ardaloedd Cumbria, Gogledd Sir Efrog a Swydd Durham yng ngogledd Lloegr.