Mae cyn-bencampwraig Wimbledon yn bwriadu dringo mynydd ucha’ Affrica… ac yna taro peli tenis o’r copa.
Fe fydd Martina Navratilova, 54 oed, yn dringo’r mynydd 19,340 troedfedd yr wythnos nesa’, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r elusen Laureus Sport for Good Foundation.
“Ro’n i’n gobeithio dringo Kilimanjaro yn dawel fach, heb dynnu fawr o sylw ata’ i fy hun,” meddai, “ond dw i’n gwybod fy mod i’n ddigon ffit i gyrraedd y copa… gawn ni weld a fydda’ i’n gallu delio ag effeithiau uchder ar y corff.
“Fe fydda’ i’n cario un raced denis gyda fi,” meddai Martina Navratilova, “ac rwy’n gobeithio taro ychydig o beli unwaith y bydda’ i ar y brig.
“Gan fod yr aer mor denau i fyny yno, fe ddylai’r peli deithio yn bell iawn.”
Llun: Martina Navratilova (o wefan Top News)