Fe fydd rhestr newydd o gyfeiriadau yn cael ei chreu a fydd yn dangos pawb sy’n byw yng Nghymru a Lloegr. Dyma’r tro cynta’ i hyn ddigwydd erioed.

Fe fydd y rhestr, a elwir yn Saesneg ‘The National Address Gazetteer’ yn cael ei defnyddio gan awdurdodau lleol a’r Arolwg Ordnans, ac yn gwneud i ffwrdd â’r angen am ddau lyfr o gyfeiriadau, fel sy’n bod ar hyn o bryd.

Yn ôl Gweinidog Cymunedau llywodraeth San Steffan, Eric Pickles, fe fyddai’r rhestr ‘genedlaethol’ newydd yn arbed arian i’r sector preifat ac i’r sector cyhoeddus.

Mae disgwyl i’r drafft cynta’ o’r rhestr fod yn barod erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesa’.

Rhestr rad ac am ddim

Fe fydd y bas-data o gyfeiriadau ar gael am ddim i bob gwasanaeth cyhoeddus. Mae angen rhestr gyfeiriadau yn aml iawn ar wasanaeth brys er mwyn gallu cyrraedd pobol sy’n ffonio 999, yn ogystal ag ar gyfer gweinyddu bysiau ysgol a rhestrau etholwyr.

Mae unrhyw fusnes, fel cwmniau yswiriant neu ddarparwyr trydan neu nwy, ar hyn o bryd yn gorfod tanysgrifio i ddwy restr – un rhestr o gyfeiriadau Cymru, ac un arall o gyfeiriadau Lloegr. Dim ond un rhestr o gyfeiriadau’r ddwy wlad fydd yna o hyn allan.

Brwd dros y newid

“Rwy’n frwd iawn tros greu un rhestr gyfeiriadau, ac rwy’n hyderus y bydd llunio un rhestr gyflawn a chywir yn dod â buddiannau i bawb sy’n ei defnyddio,” meddai Syr Rob Margetts, cadeirydd Arolwg Ornans.