Fe fu dros 300 o bobol yn protestio yn y glaw ar Y Maes yng Nghaernarfon heddiw, yn erbyn toriadau i wariant cyhoeddus Cymru a chyllideb S4C.
Mewn rali a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe fu Aelod Seneddol Caernarfon, Hywel Williams, yn areithio, ynghyd â chynrychiolwyr o undebau llafur BECTU, Unsain a’r PCS. Roedd Dafydd Iwan hefyd yn annerch.
Mae unrhyw doriadau yn mynd i effeithio ar wasanaethau fel addysg a iechyd, yn ogystal â thorri swyddi yn y gymuned, meddai Cymdeithas yr Iaith, ac fe allai hynny gael effaith yn ei dro ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.