Mae streic gan reolwyr awyr yn Sbaen wedi achosi anrhefn i filoedd o deithwyr oedd yn bwriadu hedfan i ac o’r wlad y penwythnos hwn.
Mae llwydoraeth Sbaen wedi datgan “stad o ddychryn” yn dilyn y ffordd yr aeth y gweithwyr ati i gynnal steic answyddogol a dychryn pawb gyda’r gweithredu diwydiannol.
Doedd neb yn y llywodraeth na’r diwydiant twristiaeth wedi rhagweld hyn.
Bygwth carchar
Mae rhai streicwyr wedi dychwelyd i’w gwaith yn dilyn bygythiadau y gallan nhw wynebu cyfnod yn y carchar dan gyfraith filitaraidd.
Ond mae’n debyg y bydd hi’n cymryd peth amser i bethau ddod yn ôl i drefn.
Mae un o swyddogion maes awyr Barcelona wedi cadarnhau fod 11 o’r 15 rheolwr yno wedi dychwelyd i’w gwaith, ynghyd â nifer sydd heb ei gadarnhau ym maes awyr Barajas ym Madrid.
Y streiciau
Mae’r streiciau y cam diweddara’ mewn anghydfod hir rhwng y rheolwyr a’r llywdoraeth yn Sbaen tros amodau gwaith.
Mae cwmniau hedfan Ryanair, easyJet ac Iberia wedi canslo hediadau i ac o Sbaen tan bore fory.