Mae dau o bobol wedi cael eu lladd, a thua 40 wedi eu hanafu, wedi i awyren yn cario 155 o bobol lithro oddi ar y rynwe tra’n glanio yn un o feysydd awyr Morgos heddiw.
Roedd yr awyren Tu-154, sy’n berchen i gwmni Dagestan Airlines, wedi ei gorfodi i lanio ym maes awyr Domodedvo wedi i’r injans fethu. Dyw hi ddim yn glir sut a pham y methodd yr injans.
Roedd yr awyren wedi codi i’r awyr ym maes awyr Vnukovo yn Mosgow, ac roedd ar ei ffordd i Makhachkala, prifddinas rhanbarth ddeheuol Dagestan.
Fe dderbyniodd y peilot neges yn ei rybuddio fod dwy injan yr awyren wedi methu at ôl 50milltir o hedfan, ac fe ofynnodd y syth am gael glanio yn Domodedovo.