Mae 17 o bobol wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau ar Baghdad, prifddinas Irac, heddiw. Mae’r rheiny’n cynnwys pererinion o Iran oedd yn ymweld â mangre sanctaidd yn y ddinas, ynghyd â siopwyr mewn marchnad gymunedol Shiite.

Fe gafodd mwy na chant o bobol eraill eu hanafu gan y nifer o fomiau oedd wedi eu gosod mewn ceir ar ymyl y ffordd. Mwslimiaid Shiite oedd y mwyafrif o’r rhai gafodd eu brifo.

Yn ôl heddlu lleol, targed y bomiau oedd marchnad Baiyaa, ardal Shiite yn ne-orllewin dinas Baghdad. Fe ffrwydrodd bom mewn car oedd wedi ei barcio y tu allan i’r farchnad, tua hanner dydd, gan ladd chwech o bobol ac anafu 42.

Awr yn gynharach, roedd dau ffrwydriad wedi taro dau grwp o bererinion o Iran oedd yn ymweld â morg to aur Moussa al-Kadhim yn ardal Shiite, Kazimiyah.