Fe fydd prifysgolion a cholegau yng Nghymru yn gorfod uno â’i gilydd er mwyn parhau – neu fe fydd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau.

Dyna ddywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, ddoe wrth annerch cynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig.

Er bod y sefydliadau wedi cael rhybudd y byddai’n well iddyn nhw fynd ati yn ôl eu pwysau eu hunain i gydweithio, meddai, dydyn nhw ddim wedi llwyddo i wneud hynny. Dyna pam y bydd rhai’n cael eu gorfodi i wneud hynny, neu “ddod i ben”.

Dyna’r unig ffordd gall o redeg sustem addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru, meddai, yn hytrach na bod arian ac adnoddau yn cael eu gwastraffu wrth i sefydliadau gwahanol gystadlu â’i gilydd.