Mae seremoni wedi ei chynnal i wneud Laurent Gbagbo yn arlywydd y Traeth Ifori am dymor arall – a hynny er bod swyddogion y Cenhedloedd Unedig ac eraill yn dweud mai ei wrthwynebydd a enillodd yr etholiad go iawn.
Fe gynhaliwyd y seremoni heddiw, ddyddiau’n unig wedi i gefnogwyr Mr Gbagbo ymddangos ar deledu’r wlad yn dweud mai camgymeriad oedd y cyhoeddiad cyntaf mai ei wrthwynebydd oedd wedi ennill yr etholiad.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, a nifer o arweinwyr byd eraill wedi dweud bod yn rhaid cydnabod buddugoliaeth Alassane Ouattara. Mae prif swyddog y Cenhedloedd Unedig yn y Traeth Ifori hefyd yn dweud mai dyna pwy enillodd yr etholiad go iawn.
Un o fwriadau cynnal etholiad yn y Traeth Ifori oedd sefydlogi’r wlad, wedi rhyfel suful 2002. Hwn oedd etholiad cynta’r wlad ers deng mlynedd.