Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi yr wythnos hon y byddan nhw’n sefydlu cronfa fenthyciadau lleol o £3 miliwn i gefnogi cwmnïau sy’n ei chael yn anodd sicrhau benthyciadau gan y banciau.
Daw hyn wedi i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gadarnhau fod mwy o fusnesau wedi cau yn 2009 nag yn ystod unrhyw flwyddyn arall y ganrif hon. Fe gaeodd 279,000 o fusnesau yng ngwledydd Prydain yn 2009 – y nifer ucha’ ers dechrau cadw’r cofnodion yn y flwyddyn 2000.
Y gronfa hon gan Gyngor Gwynedd fydd y cyntaf o’i math yng Nghymru, ac fe fydd benthyciadau ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint sy’n gweithio o fewn y sir.
Bydd y gronfa’n rhoi benthyciadau o rhwng £25,000 a £100,000, gyda’r cyfle i fenthyg symiau mwy os oes digon o sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu.
Allweddol ac ymarferol
“Mae cwmnïau bach a chanolig eu maint yn allweddol i economi Gwynedd. Wrth feddwl yn greadigol, ac ymateb i’r hyn y mae cwmnïau lleol wedi ei ddweud wrthan ni, mae Cyngor Gwynedd yn gwneud popeth y gallwn ni i gynnig y cymorth y mae ein busnesau ei angen,” meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards.
Fe ddywedodd hefyd bod y gronfa’n tanlinellu’r “camau ymarferol” y mae’r cyngor yn eu cymrud er mwyn helpu busnesau lleol.
Eisoes, roedd ymchwil a gafodd ei gynnal gan Gyngor Gwynedd, ‘Ymateb i’r Dirwasgiad’, yn dangos fod cwmnïau lleol yn ei chael hi’n anodd iawn i sicrhau benthyciadau gan y banciau yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol.
Roedd rhai sectorau penodol, fel twristiaeth ac adeiladu, yn ei chael hi’n arbennig o anodd.
Bydd cronfa benthyciadau Gwynedd yn ei le erbyn dechrau blwyddyn ariannol 2011/12.