Ers sefydlu ei busnes 40 mlynedd yn ôl, mae Rhiannon Evans wedi elwa llawer ar y ffaith fod ei gemwaith yn unigryw. Ond, cyn hir, fe allai fod yn beth prin iawn hefyd.
Y gemydd o Dregaron yw’r unig emydd yn y byd sy’n defnyddio aur pur o Gymru, ac erbyn hyn, hi hefyd sydd yn berchen ar yr unig gyflenwad sylweddol yng Nghymru sydd wedi ei fwyngloddio.
“Pan ddaeth mwyngloddio aur yng Nghymru i ben yn 1989, fe brynais i gryn dipyn ohono ac yna des i wybod bod gan un person arall gyflenwad hefyd,” meddai Rhiannon Evans.
“Dw i wedi prynu y cyflenwad hwnnw erbyn hyn, ac felly dim ond gen i mae aur Cymru.”
Dim digon wedi’r hanner cant…
Eleni, mae cwmni Rhiannon yn dathlu deugain mlynedd ers ei sefydlu, ond mae amheuon os bydd digon o aur ganddi ar ôl i gyrraedd yr hanner cant.
“Os bydd y gwaith yn parhau fel ag y mae nawr, mae digon o aur Cymru gyda fi am ryw ddeng mlynedd arall. Ond, os daw galw aruthrol, bydd yn diflannu cyn hynny wrth gwrs!”
Llun: cadwen aur gan Rhiannon (oddi ar wefan y cwmni)