Mae Gethin Jenkins, Tom Shanklin a Sam Warburton yn dychwelyd o ddyletswyddau ryngwladol i chwarae i’r Gleision yn erbyn Munster ar Barc Thomond heno.
Mae Dai Young yn croesawu pum chwaraewr rhyngwladol yn ôl i’w dîm, gyda Dan Parks a Richie Rees yn dechrau yn safle’r haneri.
Fe fydd Chris Czekaj yn dychwelyd yn safle’r cefnwr, gyda Gavin Evans yn symud i’r asgell.
Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gleision yn disgwyl i’r Gwyddelod ymateb yn bwerus ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn y Dreigiau nos Wener diwetha’.
Symud ymlaen
“Fe fyddan nhw siomedig ar ôl y gem yn erbyn y Dreigiau, ond rwy’n siŵr eu bod nhw’n barod i symud ymlaen gan fod llawer o chwaraewyr yn absennol, a wnaethon nhw ddim chwarae’n dda chwaith,” meddai Dai Young.
“I ni, mae’r bois oedd bant ar ddyletswydd rhyngwladol yn awyddus i ail-ddechrau chwarae yn syth. R’yn ni’n hapus iawn i’w cael nhw’n ôl, ac yn gobeithio defnyddio cymaint â phosib ohonyn nhw heno.”
Mae’r gêm wedi cael eu symud o 7.30pm i 5.00pm er mwyn ceisio sicrhau bod y gêm ddim yn cael ei heffeithio gan y tywydd gaeafol.
Carfan y Gleision
15. Chris Czekaj 14. Richard Mustoe 13. Casey Laulala 12. Tom Shanklin 11. Gavin Evans 10. Dan Parks 9. Richie Rees.
1. Gethin Jenkins 2. Gareth Williams 3. Taufa’ao Filse 4. Michael Paterson 5. Paul Tito 6. Mamma Molitika 7. Sam Warburton 8. Xavier Rush.
Eilyddion – 16. Rhys Williams 17. Tom Davies 18. Sam Hobbs 19. Bryn Griffiths 20. Ben White 21. Tom Slater 22. Ceri Sweeney 23. Dafydd Hewitt