Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi creu mwy o ddryswch fyth tros ei agwedd at gynyddu ffioedd myfyrwyr.

Erbyn hyn, yn ôl gwahanol gyfryngau, mae wedi newid ei feddwl dair gwaith tros y ffordd y bydd yn pleidleisio ar y mesur – er mai ef ei hun sy’n gyfrifol amdano.

Yn ôl Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Aaron Porter, fe fyddai ei giamocs yn gwneud argraff ar feirniaid y rhaglen Strictly Coming Dancing ond nid ar yr etholwyr.

Roedd Vince Cable “yn troelli ar ei sodlau”, meddai, gan ymateb i adroddiadau gwahanol am fwriad gwleidydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Tri cham at ddryswch

Ynghynt yn yr wythnos roedd Vince Cable wedi dweud y byddai’n aros i drafod gyda gweddill ei blaid, sy’n debyg o atal eu pleidlais.

Ddoe, fe gyhoeddodd ei bapur lleol gyfweliad yn dweud y byddai’n pleidleisio tros y mesur

Ers hynny, mewn cyfweliad arall neithiwr, fe newidiodd ei stori eto gan ddweud bod “camddealltwriaeth” ac y byddai’n penderfynu ar y cyd gyda’i blaid.