Roedd dau o wleidyddion amlyca’r Ceidwadwyr wedi gwneud addewidion mawr i’r Americanwyr cyn yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl dogfennau Wikileaks.

Ac mae sylwadau swyddogion yr Unol Daleithiau’n dangos eu bod nhw’n fodlon cymryd mantais ar “obsesiwn” a “pharanoia” Llywodraeth Prydain gyda chynnal y “berthynas arbennig” ar draws Môr Iwerydd.

Yn ôl y dogfennau diweddara’ i gael eu cyhoeddi gan bapur Y Guardian, roedd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, a’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, wedi addo y byddai’r Ceidwadwyr yn Llywodraeth pro-America.

Roedden nhw hefyd wedi awgrymu y byddai llywodraeth Geidwadol yn prynu rhagor o arfau gan yr Unol Daleithiau.

Bomio yn Yemen

Mae’r Unol Daleithiau ei hun ynghanol un o’r straeon mawr eraill sydd wedi dod i’r amlwg heddiw o blith cannoedd o filoedd o ddogfennau ei swyddogion tramor.

Roedd Arlywydd Yemen wedi rhoi caniatâd i awyrennau’r Americaniaid fomio targedau ‘terfysgol’ yn ei wlad, gan esgus mai ei luoedd ef ei hun oedd yn gyfrifol.

Llun: William Hague