Mae un o gynghorau sir Cymru wedi rhybuddio bod ffyrdd lleol wedi mynd yn rhy beryglus hyd yn oed i’w cerbydau arbenigol.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, fe ddylai pobol ystyried a yw eu teithiau’n angenrheidiol ar ôl i rew effeithio ar rwydwaith ffyrdd y sir yn ystod y nos.
Roedd y ffyrdd “yn beryglus dros ben” meddai datganiad a gyhoeddwyd ben bore heddiw er eu bod yn pwysleisio bod gweithwyr y sir yn “gwneud eu gorau glas” i halltu’r rhwydwaith.
“Mae cyflwr y ffyrdd yn mynd yn dwyllodrus tu hwnt, hyd yn oed i’n cerbydau arbenigol ni ac i’n gyrwyr profiadol ni,” meddai’r datganiad.
Marwolaethau yn Lloegr
Yn Cumbria yng ngogledd-orllewin Lloegr, fe gafodd dwy ferch ifanc eu lladd mewn damwain ffordd, gyda’r heddlu’n rhoi’r bai ar y tywydd.
Yn Swydd Efrog, y gred yw bod dwy wraig oedrannus wedi marw ar ôl cwympo yn yr ardd, mewn dau ddigwyddiad gwahanol.
Llun: Graeanu (Heidas CCA 2.0)