Fe ddylai S4C ddilyn esiampl Channel Four ac arwain o ran defnydd o’r cyfryngau digidol, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Wrth i’r mudiad ddechrau casglu enwau ar gyfer protest drwyddedau teledu, fe ddywedodd arweinydd yr ymgyrch bod angen i’r sianel dorri tir newydd.

Mae’r Gymdeithas wedi galw am ddiwygio S4C yn ogystal ag am gynnal ei hannibyniaeth a’i hatal rhag cael ei llyncu gan y BBC.

‘Ar flaen y gad’

“Mae eisiau i ni wneud yn siŵr fod y Gymraeg ar flaen y gad yn y byd digidol,” meddai Menna Machreth wrth Golwg360, gan ddweud bod Channel 4 yn Lloegr yn gosod esiampl.

“…Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gan y Gymraeg le da ar y We a bod yr iaith yn gallu addasu i wahanol gyfryngau. Dyw lot o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn gwylio teledu bellach.”

Fe ddywedodd bod yr “elfen ryngweithiol ar goll ar wefan S4C” ond bod rhwydweithiau gwefannau cymdeithasol yn llwyddo i fagu perthynas rhwng “darparwyr a chymdeithasau” ac mai dyna oedd angen S4C.

‘Pobol ifanc yw’r dyfodol’

Hefyd, mae actor amlwg sydd am wrthod talu ei drwydded deledu wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn “bwysig bod pobol ifanc yn cyfrannu at y sianel”.

Wrth ystyried yr ymgyrch am S4C newydd, fe ddywedodd Emyr Gibson – sy’n actio rhan Meical ar raglen Rownd a Rownd – mai “pobl ifanc yw’r dyfodol”.

Fe ddywedodd yr actor ei fod am “annog ei ffrindiau” i beidio â thalu eu trwyddedau teledu yn y brotest tros y sianel.

“Un sianel sydd gynnon ni. Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu rhywbeth cryf ar gyfer y dyfodol,” meddai. “Os ydyn nhw’n torri cyllid S4C – dyna ddechrau’r diwedd.”

“Tydi San Steffan yn gwybod dim am y bobol sy’n gwylio S4C. Mae angen dod â’r sianel yn ôl ar ei thraed.”

Llun: Menna Machreth