Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n dweud bod lefelau graean yng Nghymru yn parhau i fod yn weddol uchel wrth i’r tywydd gaeafol barhau.
Ond maen nhw’n rhybuddio y bydd problemau’n codi os bydd y tywydd rhewllyd ac eira yn parhau am gyfnod sylweddol.
Fe fyddai’n anodd i’r cwmnïau sy’n cyflenwi halen a graean lwyddo i gwrdd â’r galw.
“Mae lefel graean ar draws cynghorau Cymru yn parhau i fod yn weddol uchel ac maen nhw’n gweithio’n gyson i gadw Cymru ar fynd,” meddai Cyfarwyddwr Amgylcheddol y Gymdeithas, Tim Peppin.
Mae’r Gymdeithas hefyd yn trafod gyda chyflenwr yn Sweden ynglŷn â phrynu 10,000 tunnell ychwanegol o raean gyda disgwyl y bydd mwy o dywydd rhewllyd ac eira.
“Pe bai’r tywydd gaeafol yn parhau a bod mwy o eira trwm yn effeithio ar bob rhan o’r wlad, fe fydd yn anochel bod lefelau’n dechrau mynd yn isel gan na fydd cyflenwyr yn gallu cwrdd â’r galw,” meddai Tim Peppin.
“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n monitro lefelau awdurdodau lleol yn wythnosol. R’yn ni hefyd yn cyd-weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a’r cynghorau lleol i ddelio gyda’r amgylchiadau presennol.”
‘Croesawu’
Roedd y Gymdeithas yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd cynghorau yng Nghymru yn cael £7m yn ychwanegol i’w wario ar raean a thrwsio tyllau yn y ffyrdd.
Mae’r arian yn dod gan Lywodraeth y Cynulliad ac fe fydd rhaid iddo gael ei wario cyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae’n dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad am doriadau o 90% ar gynnal ffyrdd – o £68m eleni i £6m erbyn 2013/14.
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae tywydd gwael a chyfnodau difrifol o rewi wedi achosi difrod sylweddol ar draws Cymru gyda chostau i awdurdodau lleol yn filiynau o bunnoedd,” meddai Tim Peppin.
“Fe fydd y cyllid ychwanegol yn helpu cynghorau i brynu graean ychwanegol a hefyd i drwsio ffyrdd.”