Mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi agor Bocs Pandora gyda’r bwriad i gynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr i £6,000 neu hyd yn oed £9,000. Rydym ni wedi gweld protestio ar draws Brydain, a brwydro o fewn plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth i rai Aelodau Seneddol ddweud y bydden nhw’n pleidleisio yn erbyn y mesur.
Daeth y cyfan i ryw fath o benllanw bisâr pan awgrymodd y Gweinidog Busnes, Vince Cable, na fyddai’n pleidleisio o blaid ei fesur ei hun er mwyn cadw undod o fewn y blaid.
Mae’r protestwyr yn dadlau y bydd cynyddu’r ffioedd dysgu yn “dinistrio eu dyfodol”. Ond yr un cwestiwn sydd wedi ei anwybyddu ynghanol y dadlau yma i gyd, ydi i ba raddau mae angen addysg brifysgol ar y mwyafrif o’n pobol ifanc? Oni fydden nhw’n dysgu mwy, ac yn gwneud arian yn hytrach nag yn mynd i ddyled, drwy symud ymlaen yn syth i fyd gwaith?
Mae’r sector addysg uwch wedi ehangu yn gyflym iawn dros y degawdau diwethaf wrth i’r Llywodraeth anelu at sicrhau bod 50% o’r rheini sy’n gadael yr ysgol yn mynd i Brifysgol. Y pryder ydi nad ydi’r Prifysgolion wedi dod o hyd i rywbeth gwerth chweil i’w wneud gyda nhw i gyd.
A ydi’r myfyrwyr rheini yn dysgu sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer byd gwaith? Mewn marchnad swyddi cystadleuol, mae ryw fath o ‘arms race’ addysgol wedi datblygu, gyda myfyrwyr yn teimlo bod rhaid iddyn nhw fynd i Brifysgol oherwydd bod pawb arall yn gwneud hefyd.
Ond canlyniad hynny ydi nad ydi gradd brifysgol hyd yn oed yn rhoi sicrwydd swydd erbyn hyn. Oherwydd bod pawb yn mynd i brifysgol, mae’r pyst wedi eu symud. Erbyn hyn mae angen MA, neu hyd yn oed PhD, er mwyn gwneud argraff ar gyflogwyr.
Dydw i ddim yn dadlau nad oes angen addysg prifysgol ar ddoctoriaid, gwyddonwyr, neu hyd yn oed gyfrifiadurwyr. Dydach chi ddim yn gallu dysgu sut i wneud y swyddi rheini ar ôl mynd i fyd gwaith – ac mae angen blynyddoedd o astudio dwys er mwyn gallu eu gwneud nhw.
Ond mae yna ormod o gyrsiau, yn enwedig yn y dyniaethau, sydd ddim o unrhyw ddefnydd ymarferol y tu allan i waliau’r Brifysgol. Yn aml, yr unig berson sy’n gwneud bywoliaeth o’i feistrolaeth o’r pwnc yw’r person sy’n ei ddysgu.
Er enghraifft, fe ddewisais i astudio Newyddiaduraeth a Saesneg Canoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Heblaw am werthfawrogiad newydd o waith Chaucer dydw i ddim yn credu fy mod i wedi dysgu unrhyw beth ymarferol o’r ail gwrs . A dweud y gwir yr unig ffordd y gallai fod wedi bod o gymorth i fi ym myd gwaith oedd petawn i wedi cael swydd fel academydd oedd yn astudio Beowulf neu Paradise Lost yn llawn amser.
O ran y cwrs Newyddiaduraeth, roedd hwnnw’n amlwg o ddefnydd am fy mod i bellach yn newyddiadurwr – ond dw i’n credu i mi ddysgu mwy mewn tua phythefnos ar bapur newydd go iawn na wnes i ar fy nghwrs newyddiadurol cyfan, oedd yn gwyro tuag at yr academaidd yn hytrach na’r ymarferol.
Hyd yn oed ar y cwrs Newyddiaduraeth, roedd rhai o’r modiwlau yn gwbwl ddiwerth. Fe wnes i fwynhau y modiwl ‘Horror and the Media’ yn fawr iawn, ond allai’m gweld sut mae sgwennu traethawd ar The Shining gan Stanley Kubrick o ddefnydd i fi heddiw.
Ac unwaith ydach chi’n dod o hyd i swydd, dyw eich cefndir academaidd chi ddim o bwys i’r cyflogwr nesaf, dim ond eich profiad ym myd gwaith.
Cwestiwn arall ydi i ba raddau mae angen tair blynedd i gyflawni cwrs mewn prifysgol. Dim ond dwy awr o ddarlithoedd oedd gen i, a bob un o fy nghyfeillion, bob diwrnod ar y mwyaf. Pe baen ni wedi gweithio’r un oriau ag oedden ni yn ôl adeg TGAU, fe fyddai wedi bod yn bosib gwasgu tair blynedd o addysg mewn i un neu ddwy flynedd yn hawdd.
Wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o’r myfyriwr eu hunain, nid dyna’r pwynt. Mae Prifysgol bron â bod wedi troi’n debycach i ryw fath o ‘gap year’ tair blynedd, ble mae pobol ifanc yn cael gadael cartref, meddwi, caru, a phrifio. Dyw addysg ddim yn uchel ar restr blaenoriaethau y rhan fwyaf o fyfyrwyr.
Ond wrth i ffioedd dysgu gynyddu, mae’r ‘gap year’ tair blynedd yn mynd yn fwy a mwy costus. Am yr arian yna fe allech chi deithio’r byd. Neu hyd yn oed fynd yn syth i mewn i swydd a dysgu beth sydd ei angen arnoch chi’n llawer cynt.
Serch hynny, dydw i ddim yn awgrymu mai codi ffioedd dysgu yw’r ffordd gywir o annog pobol ifanc i beidio â mynd i brifysgol. Bydd pobol sydd ddim angen mynd i brifysgol o deuluoedd cefnog yn dal i fynd, a phobol sydd angen mynd i brifysgolion o deuluoedd tlawd ddim yn gallu.
Os ydi arian yn dynn, beth am yrru llai o fyfyrwyr i brifysgolion, ond canolbwyntio ar y myfyrwyr sydd wir angen mynd, o bob cefndir, a’u hariannu nhw’n llawn?