Mae hyfforddwr tîm rygbi saith bob ochr Cymru, Paul John wedi dewis carfan brofiadol ar gyfer cymal cyntaf cyfres y byd sy’n dechrau yn Dubai ddydd Gwener.
Mae mewnwr y Gweilch, Tom Isaacs yn dychwelyd i’r garfan ar ôl helpu Cymru i ennill Cwpan y Byd yn 2009.
Mae Richie Pugh, a oedd hefyd yn rhan o dîm buddugol Cymru yn 2009, wedi cael ei gynnwys yn y garfan.
Mae’r chwaraewyr saith bob ochr profiadol, Rhys Shellard, Rhys Jones, Gareth Davies, Ifan Evans a Lee Rees wedi cael ei dewis gyda Jevon Groves yn parhau fel capten.
Mae ‘na ddau gap newydd yn y garfan gyda chanolwr y Dreigiau Rhodri Gomer-Davies a chwaraewr ifanc y Gleision, Owen Williams yn cael eu cynnwys.
Targedu’r wyth olaf
Mae Cymru wedi cael eu gosod yn yr un grŵp a Kenya, Samoa a’r Gwlff Arabaidd, ac mae Paul John yn targedu ennill eu lle yn rownd yr wyth olaf.
“Mae gennym ni garfan brofiadol ond d’y ddim wedi cael llawer o amser i baratoi o flaen dau gymal cyntaf y gyfres,” meddai’r prif hyfforddwr.
“Ond r’y ni’n falch i gyrraedd Dubai lle gallwn ni ymarfer gyda’n gilydd cyn i’r gystadleuaeth ddechrau ddydd Gwener”
“R’y ni’n edrych ‘mlaen i chwarae gemau cystadleuol nawr. Roedd Gemau’r Gymanwlad yn brofiad da i ni ond ein bwriad nawr i’w dringo rhestr detholion yr IRB dros y tymor”
“Mae gennym ni’r Gwlff Arabaidd, Samoa a Kenya yn y grŵp sydd ddim yn mynd i fod yn hawdd. Mae Samoa yn bencampwyr y gyfres ac mae Kenya wastad yn anodd- ond fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i fynd ‘mlaen i rownd yr wyth olaf.”
Carfan Cymru
Jevon Groves (Dreigiau), Lee Rees (Scarlets), Rhys Jones (Casnewydd), Gareth Davies (Caerdydd), Tom Isaacs (Gweilch), Owen Williams (Gleision), Rhodri Gomer-Davies (Dreigiau), Ifan Evans (Llanymddyfri), Gavin Dacey (Pontypridd), Rhys Shellard (Caerdydd), Richie Pugh (Scarlets), Aaron Shingler (Scarlets).
Llun: Tîm buddgol Cwpan y Byd 2009 Cymru, gan gynnwys Ricie Pugh a Tom Isaacs, yn dathlu (o wefan URC)