Ar drothwy tymor y partïopn Nadolig, mae Prif Fet Cymru wedi cefnogi ffermwyr sy’n rhybuddio pobol rhag gollwng llusernau Chineaidd i’r awyr.

Yn ôl Christine Glossop, mae’r lanternau’n gallu lladd anifeiliaid ac achosi annifyrrwch iddyn nhw ac mae yna beryg y gallan nhw achosi tanau.

“Dyw llawer o bobol ddim yn ymwybodol o’r peryglon cudd i anifeiliaid ac adeiladau,” meddai’r Prif Swyddog Milfeddygol.

“R’yn ni’n derbyn adroddiadau cynyddol gan ffermwyr, undebau’r ffermwyr ac eraill am y difrod y mae’r lanternau’n ei achosi.

“Mae’r adroddiadau’n cynnwys niwed i dda byw a marwolaeth mewn rhai achosion wrth wartheg lyncu’r gwifrennau metel yn y lanternau.”

Fe alwodd ar i bobol ystyried yn ofalus a yw hi’n iawn gollwng llusernau ac i asesu pa effaith y byddan nhw’n ei chael.

Llun: Sioe o lusernau Chineaidd yn Taiwan (Philo Vivero CCA 3.0)