Mae undeb amaethyddol wedi dweud heddiw eu bod nhw’n credu y bydd difa moch daear yn Sir Benfro yn torri nifer yr achosion clefyd TB yno rhwng 68% a 81%.

Cyhoeddodd Undeb Amaethwyr Cymru’r ffigyrau yn y Ffair Aeaf Brenhinol heddiw fel rhan o ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth y Cynulliad i’r difa.

Maen nhw’n ystyried difa moch daear mewn ardal yng ngogledd Sir Benfro sy’n cynnwys 321 fferm sy’n cadw gwartheg.

Mae’r undeb yn honni bod modelu cyfrifiadurol sy’n seiliedig ar ddifa moch daear yn y gorffennol yn awgrymu y byddai’r difa yn Sir Benfro yn golygu y byddai rhwng 33 a 34 yn llai o fuchesau yn cael eu heintio gyda TB dros gyfnod o bum mlynedd.

“Os nad ydi difa moch daear yn mynd i weithio, fydden ni ddim yn ei gefnogi o,” meddai is lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Walters.

“Ond y gwir yw bod yr holl dystiolaeth yn dangos ei fod o’n gweithio, a does yna ddim ffordd arall sydd wedi’i brofi a fyddai’n cael yr un effaith ar nifer yr achosion TB yn yr ardal.

Mae dogfen ymgynghorol Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn codi’r posibilrwydd o frechu’r moch daear yn hytrach na’u difa, ond yn ôl yr undeb amaethyddol fyddai hynny ddim mor effeithiol.

“Mae gwaith gan yr Asiantaeth Ymchwil Amgylcheddol a Bwyd yn awgrymu y byddai brechu moch daear yn lleihau nifer yr achosion mewn gwartheg, ond bod difa yn fwy effeithiol,” meddai Brian Walters.