Gwariodd Cyngor Wrecsam dros £2m ar gamerâu cylch cyfyng rhwng 2007-10, yn ôl ffigyrau newydd ddatgelwyd heddiw.
Holodd Big Brother Watch bob un o’r cynghorau ym Mhrydain ynglŷn â faint oedden nhw wedi ei wario ar gamerâu cylch cyfyng dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Roedd cynghorau ar draws Cymru wedi gwario bron i £20m ar gamerâu cylch cyfyng rhwng 2007 a 2010, yn ôl yr ymchwil.
Dim ond un o gynghorau Cymru – Abertawe – fethodd ag ymateb.
Cyngor Wrecsam oedd wedi gwario fwyaf ar gamerâu cylch cyfyng yng Nghymru, a Powys oedd wedi gwario’r swm lleiaf – dim ond £54,068.89.
Ar draws Prydain, roedd 336 awdurdod lleol wedi gwario cyfanswm o £314,835,170.39 ar gamerâu cylch cyfyng.
Cyngor Birmingham oedd wedi gwario’r mwyaf, sef £10,476,874.00, rhwng 2007 a 2010.
“Mae’r ffigyrau yn arswydus,” meddai cyfarwyddwr Big Brother Watch, Alex Deane.
“Mae arian y cyhoedd yn cael ei wastraffu ar gamerâu busneslyd sy’n gwneud dim byd i atal na datrys troseddau.
“Rydym ni’n cael ein gwylio fwy nag erioed o’r blaen, ac yn gorfod talu am y cwbl hefyd.
“Bydd trethdalwyr Prydain yn synnu bod eu harian yn cael ei wastraffu fel hyn, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.”
Cynghorau Cymru
Wrecsam – £2,369,941.00
Conwy – £1,961,643.02
Rhondda Cynon Taf – £1,767,256.00
Caerffili – £1,636,671.00
Ynys Môn – £1,464,000.00
Castell Nedd Port Talbot – £1,436,683.00
Sir Ddinbych – £1,197,571.00
Casnewydd – £1,191,514.00
Pen y Bont ar Ogwr – £1,141,988.00
Caerdydd – £1,058,097.00
Gwynedd – £986,877.42
Blaenau Gwent – £944,505.00
Bro Morgannwg – £679,609.00
Merthyr Tudful – £440,326.00
Ceredigion – £438,316.05
Torfaen – £357,646.00
Sir Fynwy –£246,978.00
Sir y Fflint – £224,168.25
Sir Benfro – £104,099.00
Powys – £54,068.89