Mae’r BBC wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn dros 750 o gwynion ar ôl methu a dangos dechrau gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd dydd Sadwrn.
Ymddiheurodd y gorfforaeth ddoe ar ôl penderfynu aros gyda gêm dennis Andy Murray yn erbyn Rafael Nadal ar BBC2 yn hytrach nag dangos dechrau’r gêm.
Roedd hi i’w gweld yn llawn ar sianel S4C neu ar y botwm coch ar BBC2.
Cadarnhaodd y BBC eu bod nhw wedi derbyn 773 o gwynion ar ôl i wylwyr fethu a gweld dechrau’r gêm – gan gynnwys munud o dawelwch i gofio’r rheini fu farw ym mhwll glo Pike River yn Seland Newydd, haka’r tîm buddugol, a chic gosb gyntaf Stephen Jones.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” ac wedi gofyn i’r BBC am esboniad ynglŷn â’r penderfyniad.
“Roedd gêm Andy Murray a Rafael Nadal wedi mynd ymlaen yn llawer hirach na’r disgwyl ac wedi cyrraedd eiliad allweddol,” meddai llefarydd ar ran y BBC ddydd Sul.
“Roedden ni’n teimlo bod yn rhaid aros gyda’r gêm tan iddi orffen.”
Mae ffigyrau’r BBC yn dangos bod 2m wedi gwylio’r tennis a 2.4miliwn wedi gwylio’r gêm rygbi.