Mae S4C wedi cadarnhau eu bod nhw’n torri’n ôl ar isdeitlau Saesneg er mwyn arbed arian.

Roedd gwylwyr wedi cysylltu gyda phapur newydd y Western Mail er mwyn mynegi eu siom nad oedd isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer rhaglen y Ffair Aeaf ar S4C yn ystod y dydd ddoe.

Does yna ddim isdeitlau Saesneg ar y rhaglen heddiw chwaith.

Dywedodd un gwyliwr, Gill Davies o Gaerffili, ei bod hi wedi cysylltu gyda gwifren y gwylwyr gan feddwl bod yna broblem dechnegol, cyn cael gwybod mai torri nôl oedd y sianel.

“Mae’n siomedig iawn bod siaradwyr Saesneg yn mynd i golli’r gallu i wylio a deall rhaglenni S4C,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod nhw’n gorfod gwneud arbedion yn sgîl y toriadau yng nghyllideb y sianel a gyhoeddwyd fis diwethaf.

“Rydym ni wedi lleihau nifer y rhaglenni yr ydym ni’n gallu darparu isdeitlau ar eu cyfer oherwydd y toriadau yng nghyllideb y sianel,” meddai llefarydd ar ran S4C.

“Yn anffodus, bu’n rhaid torri’r gwasanaeth isdeitlau ar ein darllediad o’r Ffair Aeaf yn ystod y dydd ddoe.”