Fe chwaraeodd Aaron Ramsey ei gêm gyntaf dros Nottingham Forest ers ymuno ar fenthyg.

Roedd y rheolwr, Billy Davies, yn llawn canmoliaeth i’r chwaraewr canol cae ar ôl iddo ddod ymlaen yn eilydd ar gyfer hanner awr ola’r gêm yn erbyn Leicester City.

Roedd wedi dangos i’r chwaraewyr eraill o’i gwmpas sut i ddal y bêl a phasio, meddai Davies – dyna’r math o chwaraewr oedd ei angen ar Forest.

Er hynny, chwaraewr canol cae Cymru, Andy King, a gafodd unig gôl y gêm i sicrhau buddugoliaeth i’r tîm cartref yn Stadiwm Walkers.

Roedd Ramsey wedi cael ei gynnwys ar y fainc ar ôl ymuno gyda thîm Billy Davies am chwe wythnos o Arsenal. Hon oedd ei gêm gystadleuol gyntaf ers torri ei goes ym mis Chwefror.

Fe fethodd y Cymro arall yn nhîm Forest, Rob Earnshaw, gyda dwy apêl am gic o’r smotyn ac fe ddaliodd City eu tir i sicrhau buddugoliaeth bwysig.

‘Dyna’r safon’ meddai Davies

Er bod y golled wedi cadw Forest allan o’r chwech ucha’ yn y Bencampwriaeth, roedd Davies yn falch o gyfraniad Ramsey.

“Mae gan Ramsey y safon sydd ei hangen arnon ni, ond dyw e ddim yn barod i ddechrau gêm eto,” meddai.