Gwibdaith Hen Fran
Bydd Gwibdaith Hen Fran yn parhau er bod dau aelod o un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru wedi gadael y nyth.
Datgelodd Golwg 360 yr wythnos diwethaf bod Paul Thomas a Robert Ifan Buckley yn rhoi’r gorau iddi.
Ond “mae ysbryd Gwibdaith yn parhau” yn ôl Phil Lee Jones, fydd yn dal i berfformio gyda Gethin Thomas a dau aelod newydd o dan yr enw gwreiddiol.
“Mae gwraidd Gwibdaith Hen Fran dal yma,” meddai Phil Lee sy’n chwarae Ukulele. “Y Gitâr a’r Ukulele ydi twrw Gwibdaith.”
“Mae cael aelodau newydd fel cael sgidiau newydd. Rydan ni’n gallu rhedeg yn gyflymach,” meddai.
Aelodau newydd
Ar hyn o bryd mae cefnder Gethin Thomas, Ieuan Williams, yn chwarae gitâr gyda’r band.
Mae Gary Richardson, un o chwaraewyr bas Gai Toms, hefyd wedi bod yn chwarae gyda Gwibdaith hyd nes iddyn nhw “ddod o hyd i aelodau llawn amser”.
Bydd Justin Davies hefyd yn chwarae organ geg gyda’r band, meddai Phil Lee.
“Rydyn ni wedi sgwennu dwy gân gyda’r aelodau newydd yn barod,” meddai Phil Lee cyn dweud ei fod yn teimlo “nad yw Gwibdaith Hen Fran yn barod i ddod i ben eto”.
‘Awydd’
Dywedodd Gethin Thomas ei fod o’n teimlo’n “gyffrous ond yn nerfus” wrth ystyried y cyfnod newydd yn hanes y band.
“Mae’r awydd yna eto rŵan,” meddai cyn dweud fod “cael newid yn beth da” a’u bod nhw wedi “colli amynedd” gyda’r band cynt.
Ychwanegodd fod y ceisiadau i chwarae gigiau yn “dal i lifo i mewn yn ddi-stop” er gwaetha’r newyddion fod dau aelod wedi gadael.