Fe fydd corff sy’n cadw llygad ar yr economi yn dweud heddiw y bydd llai na’r disgwyl o swyddi’n cael eu colli oherwydd toriadau yn y sector cyhoeddus.
Yn ôl y Swyddfa dros Gyfrifoldeb Cyllidol, 400,000 o swyddi fydd yn cael eu colli erbyn mis Ebrill 2015 yn hytrach na’r 490,000 a gafodd ei broffwydo ym mis Mehefin.
Mae hynny’n ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth San Steffan i dorri £7 biliwn yn rhagor oddi ar fudd-daliadau ac arbed rhywfaint ar adrannau llywodraeth.
Mae disgwyl i’r Swyddfa hefyd godi ei hamcangyfrif am dwf yr economi, gyda holl gynnyrch economaidd y wlad – GDP- yn codi o 1.7% eleni, yn hytrach na’r broffwydoliaeth gynharach o 1.2%.
Er bod y cynnydd mewn GDP wedi arafu, roedd y ffaith ei fod wedi codi 0.8% yn nhrydydd chwarter y flwyddyn wedi lleihau’r ofnau o ail ddirwasgiad ac atgyfnerthu gobeithion y Llywodraeth y bydd y sector preifat yn llanw’r bwlch swyddi.
Fe fydd y rhagolygon yn cael eu cyhoeddi am un heddiw ac fe fydd y Canghellor, George Osborne yn rhoi ei ymateb am 3.30pm.
Llun: Y Trysorlys (James F – Trwydded GNU)