Ceisio dadwneud difrod y llynedd fydd un o brif amcanion uwch gynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig sy’n dechrau yn Cancun ym Mecsico heddiw.
Fe fydd angen ceisio adfer y berthynas rhwng gwahanol grwpiau o wledydd ar ôl i uwch gynhadledd Copenhagen y llynedd orffen heb gytundeb.
Yn wahanol i’r ymgais y llynedd, does dim sôn am gytundeb mawr cyffredinol ac mae gwaith i’w wneud i sicrhau bod gwledydd yn cadw at addewid i gyfrannu £60 biliwn at gronfa i helpu gwledydd sy’n datblygu.
Y nod fyddai eu hannog i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy heb gynnydd mawr yn eu hôl troed carbon.
Achub coedwigoedd
Un o’r gobeithion eleni yw cytundeb ar warchod coedwigoedd – fe gafodd cynllun o’r enw REDD+ ei golli ynghanol y dadlau llynedd ond mae mudiadau amgylchedd fel y WWF yn gobeithio y bydd yn cael ei adfer eleni.
Fe fyddai hynny’n golygu atal gwledydd rhag torri coedwigoedd gwerthfawr a cheisio rheoli’r galw am nwyddau fel olew palmwydd a phapur sy’n arwain at ddadgoedwigo.
Hynny sy’n gyfrifol am tuag 20% o’r holl nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng, meddai’r WWF, ac maen nhw hefyd eisiau mesurau i warchod pobol frodorol a chymunedau.
Tywydd eithafol
Mae’r elusen ddyngarol Oxfam yn galw am gronfa i helpu pobol fregus sy’n diodde’ oherwydd effaith newid hinsawdd.
Maen nhw’n dweud bod 21,000 o bobol wedi marw yn ystod naw mis cynta’ eleni oherwydd tywydd eithafol yn sgil newid hinsawdd. Mae hynny bron ddwywaith mwy na’r cyfanswm trwy 2009.
Llun: Torri coed ym Mecsico