Mae yfed er mwyn meddwi wedi dod yn rhan mwy a mwy normal a derbyniol o fywyd Cymru, meddai adroddiad newydd gan y mudiad Alcohol Concern.
Mae adroddiad newydd, Cenedl o ddiotwyr? Cymru ac alcohol, yn dweud bod “cynnydd anferth” wedi bod mewn yfed yn ystod y degawdau diwetha’.
Mae hynny’n cynnwys diwylliant o seshio ac o yfed yn drwm yn y cartref, meddai’r elusen, sy’n galw am bedwar cam i ddatrys y broblem.
Yr argymhellion
• Mae’r elusen eisiau isafswm pris o 50c am bob uned o alcohol.
• Maen nhw eisiau i nifer yr unedau gael eu dangos yn glir ar bob potel, can, pwmp a bwydlen.
• Maen nhw’n galw am ragor o rym i awdurdodau lleol gael gwrthod trwyddedi alcohol er mwyn gwarchod iechyd.
• Yn ôl yr adroddiad, fe ddylai’r grym tros bris alcohol gael ei ddatganoli i Gaerdydd.
Meddai’r adroddiad
“Mae yfed yng Nghymru wedi cynyddu’n aruthrol yn y degawdau diwethaf, a llawer o bobol erbyn hyn yn yfed llawer mwy na’r lefelau sy’n cael eu hargymell.
“Mae hyn i’w weld yn fwyaf amlwg ar ffurf sesiynau yfed mawr ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd; ac yn fwy tawel bach trwy gynnydd mewn yfed yn y cartref wrth i’r archfarchnadoedd ddal ati i werthu alcohol yn eithriadol o rad.”
LlunL: Rhan o glawr yr adroddiad