Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn gorfod rhoi’r gorau i dalu £50 i helpu pob plentyn, oherwydd bod y Llywodraeth yn Llundain yn dileu eu taliadau nhw.

Yn lle hynny, meddai’r Dirprwy Weinidog Plant, Huw Lewis, fe fydd arian yn cael ei dargedu ar bobol ifanc sydd mewn gofal a rhai gydag anableddau.

Fe gyhoeddodd heddiw bod y taliad o £50 ychwanegol o Gymru ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn dod i ben oherwydd bod Llywodraeth Prydain yn cael gwared ar y cynllun sylfaenol.

Roedd hwnnw’n rhoi £250 i bob plentyn i fod ar gael i’w wario pan oedden nhw’n 18 oed. Roedd Cymru wedi ychwanegu £50 a £50 arall wedyn i’r plant o’r teuluoedd tlota’.

Targedu

Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud eu gorau i gadw’r taliadau, meddai Huw Lewis, ond yn y diwedd wedi penderfynu ceisio gwario’r arian mewn ffordd arall er mwyn cadw rhai o’r buddiannau.

Fe fydd pob person ifanc rhwng 16 ac 18 sy’n gadael gofal yn derbyn un taliad o £500 i’w helpu ar eu ffordd.

Trwy’r cynllun Teuluoedd yn Gyntaf, mae Huw Lewis hefyd yn gobeithio targedu arian ar blant a phobol ifanc gydag anableddau.

‘Penderfyniadau anodd’

“Mae hwn yn gyfnod anodd ac mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ar draws y Cynulliad,” meddai Huw Lewis.

“Ond trwy wneud y newidiadau hyn, byddwn yn cael mwy o arian yn uniongyrchol i’r rheng flaen ac yn helpu rhai o’r bobol fwya’ anghenus yn ein cymdeithas.”

Llun: Huw Lewis