Mae ofn am broblemau rhyngwladol ar ôl i chwarter miliwn o ddogfennau cyfrinachol gael eu cyhoeddi gan wefan Wikileaks.

Maen nhw’n cynnwys negeseuon cyfrinachol gan swyddogion yr Unol Daleithiau, gyda honiadau fod arweinwyr Arabaidd eisiau ymosod ar Iran a bod yr Americaniaid yn ysbïo ar gyfeillion, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r llywodraethau yn Washington a Llundain wedi rhybuddio y gallai gollwng yr wybodaeth arwain at niweidio’r berthynas rhwng gwledydd a pheryglu bywydau swyddogion a chynrychiolwyr eraill.

Y penawdau

Dyma rai o’r penawdau o’r dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi gan lond llaw o bapurau newydd o amgylch y byd, gan gynnwys y Guardian yn Lloegr:

• Roedd rhai o wledydd Arabaidd y Dwyrain Canol wedi annog yr Unol Daleithiau i ymosod ar Iran a dinistrio’i harfau niwclear.

• Roedd yna gyfarwyddyd i ddiplomyddion ysbïo ar wledydd cyfeillgar ac ar Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-moon.

• Mae yna bryder am sefydlogrwydd Pacistan gyda rhybudd y gallai deunydd niwclear gael ei smyglo oddi yno a’i roi i derfysgwyr.

• Sylwadau bod Rwsia fwy neu lai yn wlad sy’n cael ei rhedeg gan y mafia a bod perthynas rhy agos rhwng y Prif Weinidog Vladimir Putin a Phrif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi.

• Mae yna feirniadaeth hefyd o Brif Weinidog Prydain, David Cameron, ac o ymdrech filwrol lluoedd Prydain yn Afghanistan.

Embaras

Mae’r rhan fwya’ o’r dogfennau’n negeseuon rhwng llysgenadaethau a’r Llywodraeth yn yr Unol Daleithiau ac mae disgwyl y bydd arolwg yn cael ei gynnal o drefniadau diogelwch.

Mae llawer o’r sylwadau am achosi embaras gan eu bod yn beirniadu arweinwyr eraill – o ddweud bod Arlywydd Afghanistan yn llawn paranoia i gymharu Arlywydd Irac, Mahmoud Ahmadinejad, gydag Adolf Hitler.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, yn ôl y Guardian, mae swyddogion yr Unol Daleithiau wedi bod yn cysylltu gyda llywodraethau cyfeillgar i’w rhybuddio am y datgelu ac i geisio ail-godi pontydd.

Sylwadau’r Llywodraeth

Mae Llywodraeth Prydain wedi ymuno gyda’r Americaniaid i gondemnio’r datgelu: “R’yn ni’n condemnio unrhyw ddatgelu diawdurdod o’r wybodaeth gyfrinachol yma … fe allan nhw wneud difrod i ddiogelwch cenedlaethol, dydyn nhw ddim er budd cenedlaethol ac, fel y dywedodd yr Unol Daleithiau, mae’n peryglu bywydau.”

Llun: Pennawd y Guardian