Mae’r ffilm Cwcw wedi ennill gwobr mewn gwyl ryngwladol yng ngogledd Fresia, Yr Almaen.
Mae Cwcw, a ysgrifennwyd a’i chyfarwyddo gan Delyth Jones, yn bortread o fywyd y sgriptwraig Jane Jones, sydd yn gweld ei byd yn datod o flaen ei llygaid yn wyneb ei phriodas ddinistriol â’r actor Sam Llewelyn.
Cafodd y ffilm ei darlledu mewn dwy ran yn gynharach eleni ar S4C, gyda’r actores Eiry Thomas yn portreadu Jane; Rhys Richards fel ei gŵr alcoholig, Sam; ac Aneirin Hughes fel ei chariad, John Jones.
Mae’r ffilm, a gynhyrchwyd gan Ffilmiau Fondue, wedi ennill gwobrau’r ffilm orau yng Ngŵyl Ffilm Female Eye, Toronto, Canada a Gŵyl Ffilm Ryngwladol De Affrica, ynghyd a gwobrau BAFTA Cymru ar gyfer Eiry Thomas fel Actores Orau a John Hardy ar gyfer y Tracsain Cerddoriaeth Gwreiddiol.
“Rwy’n hynod falch bod Cwcw wedi ennill ei thrydedd wobr ffilm ryngwladol,” meddai Delyth Jones. “Mae’n dda gweld ffilmiau o Gymru yn cael sylw ledled Ewrop.”