Mae diffoddwyr wedi bod yn ymladd tân anferth sydd wedi cynnau yn nho gorsaf drenau hanesyddol Haydarpasa ym mhrifddinas Twrci, Istanbul.
Mae Selami Ozturk, maer yr ardal, wedi siarad am y ffordd y cynheuodd y tân yn ystod gwaith cynnal a chadw ar y to.
Fe ymledodd y tân i weddill yr adeilad wedyn, ac mae ymladdwyr tân wrthi ar hyn o bryd yn ceisio ei ddiffodd.
Mae pennaeth Siambr Penseiri Twrci, Eyup Mumcu, wedi dweud mewn cyfweliad teledu bod yr adeilad yn cael ei ddal gan 220 o ddistiau pren, a bod angen eu chwistrellu nhw â dwr ar frys er mwyn sicrhau nad yw’r adeilad yn dymchwel.
Fe godwyd yr Haydarpasa ar ddechrau’r 20fed ganrif gan benseiri Almaenig yn arddull y Dadeni newydd.