Mae dyn wedi dianc o dy yn ddianaf ar ôl i nam trydanol mewn gwifren gynnau tân yn ei gartref ddoe

Fe gafodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r tŷ llawr cyntaf yn Stryd y Farchnad yn Rhos ger Wrecsam am dri o’r gloch y bore ar ôl i dan gynnau yn y lolfa/llofft.

Fe ddeallodd y dyn fod ei dy ar dân ar ôl i’w larymau mwg seinio, a dyna pryd y penderfynodd ddianc drwy’r ffenestr a disgwyl ar do gwastad yno cyn cael ei achub gan swyddogion tân. 

Mae’r Gwasanaeth tan yn credu mai nam gyda gwifren ‘extension lead uncolied’ oedd wedi’i ffitio i wresogydd olew oedd achos y tan. Roedd y wifren wedi gorboethi.

Wrth i’r Nadolig agosáu, mae’r Gwasanaeth yn galw ar bobol i wneud yn siŵr fod gwifrau’n ddiogel i atal gorboethi.