Mae Cymraes yn poeni na fydd yn gallu mynd ar daith elusennol i Giwba ar ôl i westy mawr yng Nghaernarfon ganslo cyngerdd ar y munud ola’.
Fe ddywedodd Elliw Gwyn Jones, 19, o’r Fron ger Caernarfon wrth Golwg360 ei bod wedi cymryd tri mis iddi a’i ffrind o’r Bontnewydd drefnu cyngerdd i godi arian at daith elusen i Ciwba gyda Clic Sargent sy’n gofalu am blant a phobl ifanc gyda chanser.
Ond, mae Gwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon wedi rhoi eu trip fis Mawrth “mewn perygl,” meddai Elliw Jones ar ôl iddyn nhw dynnu’n ôl fargen, a gwrthod caniatau i’r gig gael ei gynnal yn y gwesty.
Yn ôl y trefnydd – fe wnaeth y Gwesty ganslo’r gynerdd dair gwaith – y tro cyntaf am eu bod nhw wedi “bwcio dau griw”; yna’r eildro oherwydd “rhesymau trwydded ac yswiriant”; ac wedyn am y trydydd tro gan fynnu nad oedden nh’wn gwybod y byddai pedwar band a digrifwr yn perfformio.
“Dw i’n teimlo’n siomedig nad ydyn nhw’n cefnogi bandiau Cymraeg lleol,” meddai Elliw Jones.
“Y rheswm i ni ddewis y Celtic Royal oedd bod o’n westy yng nghanol ardal Gymraeg, ond mae’r gwesty wedi awgrymu y byddai’r bandiau roc yn denu’r math anghywir o dorf.”
Ateb Gwesty’r Celt
Fe ddywedodd rheolwr Gwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon wrth Golwg360 nad oedd y Gwesty’n ymwybodol fod “pedwar band roc a digrifwr yn perfformio” yn y cyngerdd elusen yn y lle cyntaf.
Fe ddywedodd hefyd nad oedd y canslo yn “ddim i’w wneud ag iaith y bandiau.”
“Nid y math yma o ddigwyddiad – pedwar band roc a digrifwr – ydan ni isio’i gynnal yn y gwesty. Dydi o ddim yn gweddu i’n safonau nac i ethos y gwesty,” meddai Menna Fôn, y rheolwr.
Doedd trefnwyr y gyngerdd “heb egluro’r sefyllfa’n glir am y pedwar band,” meddai gan fynnu nad oedd iaith y bandiau’n ddim i’w wneud â’r rheswm dros y canslo.
“Faswn i ddim isio pedwar band roc o Japan, yr Almaen nac unlle arall,” meddai cyn dweud nad ydi’r math hwnnw o noson yn addas i westy tair seren foethus.
Mae’r Celtic Royal wedi dweud eu bod yn cyfrannu £500 i’r elusen fel “mesur o ewyllys da” a’u bod hefyd wedi cytuno i dalu costau canslo trefnwyr ar wahân.