Mae Cymru wedi ennill medal aur ac arian yng nghwpan coginio’r byd yn Luxembourg ddiwedd Tachwedd.
Fe ddywedodd Graham Tinsley – un o berchnogion The Castle Hotel yng Nghonwy a rheolwr tîm cogyddion Cymru wrth Golwg360 fod y tîm yn “ecstatig” gyda chanlyniadau’r gystadleuaeth fawr yn Luxembourg.
Fe gafodd y tîm cogyddion fedal aur yng nghystadleuaeth y ‘gegin boeth’ nos Sul ar ôl coginio cwrs tri phryd i 110 o bobl.
Yna, fe gafodd y tîm fedal arian yng nghystadleuaeth y ‘bwffe oer’ ddydd Mawrth – a oedd wedi’i selio ar thema castell canoloesol. Canolbwynt bwffe tîm Cymru oedd draig goch wrth gastell oedd wedi’i amgylchynu â bwyd.
“Y gystadleuaeth hon yw’r ail fwyaf yn y byd – ar ôl yr Olympics,” meddai Graham Tinsley.
‘Rhyfeddol’
Fe ddisgrifiodd safonau coginio gwledydd eraill, yn arbennig Singapore, Canada ac America fel bod yn “rhyfeddol” cyn dweud mai Singapore oedd pencampwyr cyffredinol y gystadleuaeth.
Mae wedi bod yn flwyddyn rwystredig i’r cogyddion o Gymru – a fethodd gystadlu mewn cystadleuaeth fawr yn Singapore fis Ebrill ar ôl i lwch o losgfynydd Gwlad yr Ia rwystro awyrennau rhag hedfan. “Roedd methu cystadlu yn Singapore wedi ein gwneud yn fwy awchus am lwyddiant y tro hwn” meddai Graham Tinsley.
‘Sialens’
Yn ôl y rheolwr – prif sialens y tîm yn awr fydd datblygu tîm ieuenctid i fynd gyda’r tîm oedolion i’r Olympics.
Yn y cyfamser, fe fydd tîm Cymru’n parhau i gystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol llai i ymarfer a hefyd yn gwahodd gwledydd eraill i Gymru i gystadlu yn eu herbyn.
“Rydan ni wastad yn edrych i wneud yn well ac yn well,” meddai.
Llun: Rheolwr tîm coginio Cymru, Graham Tinsley, yn paratoi i Gwpan y Byd gydag aelodau’r tîm