Mae heddlu wedi galw ar deithwyr fu mewn damwain ffordd yng nghanolbarth Lloegr, lle lladdwyd babi bach deufis oed, i ddod ymlaen i drafod y digwyddiad.

Yn ôl Heddlu West Midlands, roedd o leia’ pedwar o bobol yn teithio yn y car Mitsubishi Evolution a adawodd safle’r ddamwain cyn i swyddogion gyrraedd.

Dyw’r car lliw arian ddim wedi ei gofrestru’n eiddo i neb, ac fe fu mewn gwrthdrawiad gyda Toyota Corolla ar Grove Lane yn Smethwick yn fuan wedi chwech o’r gloch neithiwr.

Fe gludwyd y baban deufis oed, a oedd yn teithio yn y Toyota, i Ysbyty Plant Birmingham, ond doedd dim modd ei adfywio.

Mae gwraig 24 oed a oedd yn teithio yn yr un cerbyd â’r babi, wedi anafu’n wael iawn, ac mae’n parhau i dderbyn triniaeth ysbyty.

Fe gafodd tri theithiwr arall yn y Toyota – dau ddyn, 27 a 69 oed, a gwraig 26 oed – hefyd eu hanafu yn y gwrthdrawiad, yn ôl yr heddlu.