Fe fyddai Canghellor yr wrthblaid yn San Steffan, Alan Johnson, “yn dymuno lleihau trethi”, fel bod y rheiny sydd ar gyflogau isel yn elwa.

Yn ôl Mr Johnson, y “flaenoriaeth” yw lleihau’r pwysau ar y rheiny ar gyflogau is, ac mae’n mynnau nad oes gwahaniaeth barn rhyngddo ef ac arweinydd Llafur, Ed Miliband, dros gadw cyfradd treth incwm yn 50c i’r rheiny ar incwm uwch.

“Be’ mae Ed a finnau’n gytûn arno fo ydi ein bod ni angen cyfradd o 50c rwan, fe fydd angen y gyfradd honno adeg yr etholiad nesa’, ond mi edrychwn ni ar hynny yn agosach at yr amser,” meddai Alan Johnson ar raglen Andrew Marr ar BBC1 fore heddiw.

“Dw i’n dymuno gostwng trethi. Y flaenoriaeth ydi gostwng cyfradd y dreth i’r bobol ar gyflogau is.”

Adolygiad Miliband

Fe wnaeth y sylwadau ddiwrnod wedi i Lafur lawnsio adolygiad o’u polisiau, ac i Ed Miliband ddweud mai’r nod yw adlewyrchu “gobeithion, breuddwydion a nod” pobol gwledydd Prydain.

Fe addawodd Miliband hefyd y byddai’n “symud y tu hwnt i syniadau Llafur Newydd”, gan ddweud y byddai rheolau ethol arweinydd ei blaid dan y chwydd-wydr hefyd.