Mae heddlu Brasil wedi dechrau ymosod ar dre’ sianti yn Rio de Janeiro sydd wedi bod yn gadarnle i ddelwyr cyffuriau ers blynyddoedd. Mae swn gynnau wedi ei glywed heddiw.

Mae heddweision, wedi’u gwisgo mewn dillad duon ac yn cario gynnau, wedi mynd i mewn i dre’ Alemao heddiw, gyda lluniau’n cael eu darlledu’n syth ar deledu Brasil yn eu dangos yn cael eu cefnogi gan heddlu mewn hofrenyddion yn hedfan uwchben.

Fe ddaw’r cyrch yn dilyn wythnos o drais yn Rio, gyda mwy na 100 o geir a bysiau’n cael eu tanio ac o leia’ 35 o bobol yn cael eu lladd – y mwyafrif o’r bobol hynny wedi’u hamau o fod yn werthwyr cyffuriau.

Mae hyn i gyd yn rhan o ymgyrch tymor hir llywodraeth Brasil i wthio drwgweithredwyr allan o’r slymiau, lle maen nhw wedi rheoli’n ddigwestiwn ers blynyddoedd.