Mae gweinidog niwclear China wedi galw ar i drafodaethau diarfogi Gogledd Corea gyfarfod ar frys er mwyn trafod y tensiynau rhwng y wlad honno a’i chymydog, De Corea.
Mae Wu Dawei yn galw ar i drafodaethau rhwng y chwe gwlad ail-ddechrau yn Beijing ddechrau Rhagfyr.
Mewn datganiad heddiw, mae wedi galw ar y gymuned ryngwladol i ystyried o ddifri’ yr hyn sy’n digwydd yn y rhan hon o’r byd.
Fe fu China’n ara’ deg yn ymateb i ddechrau i’r ffaith bod Gogledd Corea wedi saethu taflegrau at ynys sy’n perthyn i Dde Corea. Ond erbyn hyn, mae pethau wedi newid.