Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio’r wefan WikiLeaks y gallai cyhoeddi rhai dogfennau cyfrinachol ar y rhyngrwyd roi bywydau yn y fantol.

Mewn llythyr at sylfaenydd y wefan sydd eisoes wedi cyhoeddi manylion a dogfennau cudd, mae llywodraeth America yn dweud y gallai cyhoeddi’r dogfennau diweddara’ heddiw roi bywydau mewn peryg a chreu tensiynau rhwng gwledydd yn y byd.

Fe allai cyhoeddi’r dogfennau wneud difrod mawr i’r dylanwad sydd gan yr Unol Daleithiau yn y byd, gan roi manylion am ymgyrchoedd milwrol a bradychu ei hagwedd at weddill y byd.

Mae disgwyl i WikiLeaks gyhoeddi’r gyfres ddiweddara’ o ddogfennau ryw dro heddiw.