Mae awyren cario nwyddau wedi disgyn i’r ddaear mewn ardal boblog ym Mhacistan. Fe gafodd pob un o’r wyth aelod o’r criw ar ei bwrdd ei ladd, ond fe lwyddodd y belen dân i osgoi cartrefi pobol leol.
Fe gafodd un person ar y ddaear ei anafu pan syrthiodd yr awyren o Rwsia gan daro cartrefi newydd oedd yn y broses o gael eu codi yn Karachi.
Mae’r awdurdodau yn parhau i chwilio ymysg y chwalfa am gyrff y rhai gafodd eu lladd.
Dyma’r ail ddamwain awyren yn Karachi y mis hwn, y prif faes awyr yn ne Pacistan; a dyma’r drydedd ddamwain ym Mhacistan mewn cyfnod o lai na phum mis.