Fe ruthrodd pobol ynys Yeonpyeong i fochel wrth i sŵn tanio gynnau mawr gael ei glywed unwaith eto yn yr ardal ar y ffin rhwng Gogledd a De Korea.

Roedd yn arwydd o’r tensiwn cynyddol o amgylch yr ynysoedd yn y Môr Melyn wrth i luoedd y De a’r Unol Daleithiau ddechrau ar ymarferion milwrol yno.

Roedd pobol Yeonpeong yn ofni bod y Gogledd yn ymosod unwaith eto, fel y gwnaethon nhw ddechrau’r wythnos ddiwetha’, ond mae’n ymddangos nad oedd y gynnau wedi taro’r ynys.

Mae’r Gogledd wedi rhybuddio y byddan nhw’n ymateb eto os ydyn nhw’n parhau i gael eu “pryfocio” tros ardal y ffin ond mae’r Unol Daleithiau a’r De’n galw ar China i ymyrryd i geisio tawelu’r wlad Gomiwnyddol.

Mae cynrychiolydd o China wedi bod yn cynnal trafodaethau yn Ne Korea gydag Arlywydd y wlad Lee Myung-bak ac mae disgwyl i arweinydd Cynulliad y Bobol yn y Gogledd fynd i Beijing ddydd Mawrth.

Y cefndir

Mae’r anghydfod tros y ffin wedi parhau ers canol yr 1950au pan gafwyd cadoediad – ond nid heddwch – yn y rhyfel rhwng y ddwy Korea.

Dyw’r Gogledd erioed wedi derbyn y ffin a osodwyd bryd hynny gan y Cenhedloedd Unedig gan ddadlau mai hi sydd biau’r moroedd o amgylch Yeonpyeong.

Mae gwrthdaro milwrol wedi bod yn yr ardal sawl tro – gan gynnwys suddo un o longau’r De ynghynt eleni. Yr ymosodiad yr wythnos hon oedd un o’r gwaetha’, gyda phedwar yn cael eu lladd.

Achos arall tros y tyndra diweddar yw cyhoeddiad y Gogledd ei bod wedi cynyddu ei gallu i gyfoethogi wraniwm ar gyfer arfau niwclear ac mae wedi bod yn profi taflegrau yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Llun: Dangos un o daflegrau Gogledd Korea