Mae un o ffigurau amlyca’ darlledu Cymru wedi galw am dri cham cyflym i ddatrys problemau S4C.
Mae angen i Gadeirydd yr Awdurdod ymddiswyddo, mae angen i weddill yr aelodau fod yn barod i fynd ac mae angen ymchwiliad annibynnol, meddai Geraint Talfan Davies.
Fe ddywedodd cyn-bennaeth y BBC yng Nghymru wrth raglen radio Sunday Supplement bod modd adfer sefyllfa’r sianel, ond bod angen gweithredu penderfynol.
Dyma’r argymhellion:
• Fe ddylai Cadeirydd yr Awdurdod John Walter Jones “ymddiswyddo ar unwaith”. Roedd y berthynas rhyngddo ef a gweddill yr aelodau wedi chwalu ac fe fyddai ei ymddiswyddiad yn golygu bod rhaid i’r Adran Ddiwylliant yn Llundain ddechrau ar y broses o ddewis Cadeirydd newydd.
• Fe ddylai aelodau’r Awdurdod aros ond gan gynnig ymddiswyddo os oedd y Cadeirydd newydd eisiau hynny.
• Fe ddylai’r Adran Ddiwylliant gynnal arolwg annibynnol – roedd gwrthod gwneud hynny tan 2015, fel yr awgrymodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn “nonsens llwyr”. Os nad oedd ef yn fodlon gwneud, fe ddylai’r Cynulliad neu Lywodraeth y Cynulliad gynnal yr arolwg.
‘Dim clod i neb’
Yn ôl Geraint Talfan Davies, doedd neb wedi dod trwy’r helynt gydag unrhyw glod. Roedd “rheolaeth gorfforaethol S4C wedi chwalu”, doedd y corff rheoleiddio, Ofcom, ddim wedi gweithredu ac roedd Jeremy Hunt wedi “creu gwagle”.
Yn y tymor hir, meddai Geraint Talfan Davies, y broblem oedd bod S4C yn cael ei gweld y tu hwnt i feirniadaeth, nes ei bod wedi “troi i mewn arni ei hun”.
“Mae’n bosib adfer y sefyllfa,” meddai Geraint Talfan Davies. “Cyn belled â bod y camau yma’n cael eu cymryd. Does dim brys – dyw’r trefniant gyda’r BBC ddim yn digwydd tan 2013-14.”
Llun: S4C